Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (212) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 3 a 5 i 8. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 6 a 9 i 11. Tynnwyd cwestiynau 7 ac 8 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1 a 10 gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi.
3 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Dechreuodd yr eitem am 15.08
Gofynnwyd y ddau gwestiwn.
4 Datganiad gan y Prif Weinidog: Bil Sector Amaethyddol (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.14
5 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 15.47
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5536
Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r awydd llethol ymhlith cefnogwyr pêl-droed i weld cyfleusterau sefyll diogel yn cael eu cyflwyno;
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chymdeithasau chwaraeon ac awdurdodau rheoleiddio i hyrwyddo cyfleusterau sefyll ddiogel yn stadia chwaraeon yng Nghymru; ac
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ystyried cyflwyno cynllun peilot ar gyfer cyfleusterau sefyll diogel yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
20 |
1 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig.
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i reoli tir yn gynaliadwy
Dechreuodd yr eitem am 16.27
NDM5554 Alun Ffred Jones (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i Reoli Tir yn Gynaliadwy, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 17.01
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5555
Paul Davies (Preseli Penfro)
Elin Jones (Ceredigion)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r Cod Gweinidogol: Cod Moeseg a Chanllawiau Gweithdrefnol i Weinidogion.
2. Yn nodi disgwyliad y Prif Weinidog bod yr holl Weinidogion, Dirprwy Weinidogion a'r Cwnsler Cyffredinol yn cydymffurfio â'r Cod
3. Yn nodi'r adroddiad i'r Prif Weinidog ar gydymffurfiaeth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd â'r Cod Gweinidogol mewn perthynas â Cylchffordd Cymru, sy'n cadarnhau bod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd wedi torri'r Cod Gweinidogol
4. Yn galw am benodi Dyfarnwr Annibynnol y Cod Gweinidogol er mwyn gwella tryloywder a, thrwy hynny, cynyddu hyder yn y rhai a gaiff eu hethol i swyddi cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.52
8 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.53
NDM5553 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Y daith at ddysg: y ddarpariaeth o drafnidiaeth i ysgolion a cholegau yng Nghymru
9 Dadl Fer - gohiriwyd o 18 Mehefin 2014
Dechreuodd yr eitem am 18.11
NDM5528 Nick Ramsay (Mynwy)
Llais - Siarad ar ran pobl sy'n byw gyda Chlefyd Niwronau Motor yng Nghymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.42
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Gorffennaf 2014